Cafodd tri dyn eu hachub oddi ar gwch pysgota yn y môr ger Dinas Dinlle yn oriau mân y bore ’ma wedi i’r cwch newydd golli pŵer.

Roedd y tri, o Swydd Gaerhirfryn, wedi ffonio am help gyda’u ffonau symudol toc wedi hanner nos, gan nad oedd ganddyn nhw radio ar fwrdd y cwch.

Ar y pryd, roedd y cwch ar y Fenai, ond erbyn i wylwyr y glannau Caergybi ddod o hyd iddyn nhw am 1.10am, roedd y cwch wedi symud draw tuag at Ddinas Dinlle.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Caergybi wrth Golwg 360 y bore ’ma fod y dynion yn “oer iawn” pan gafwyd hyd iddyn nhw, heb “unrhyw offer diogelwch o gwbwl – dim siacedi achub na radio VHF.”

Mae’n debyg bod y tri dyn o Swydd Gaerhirfryn newydd brynu’r cwch pysgota 28 troedfedd, ac mai ar un o’u teithiau cyntaf yn y cwch yr oedden nhw neithiwr, pan fethodd y pŵer.