Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae tref o 50,000 o bobol yn Syria wedi cael ei thargedu gan ymosodiadau dwys o danciau a hofrenyddion ers 5am y bore ’ma, yn ôl trigolion lleol.

Dechreuodd yr ymosodiadau ar y ddaear ryw dair awr yn ddiweddarach, ac mae cannoedd o filwyr yn ceisio gwthio’u ffordd i mewn i’r dref erbyn hyn.

“Mae pobol wedi eu hanafu ar y strydoedd na allwn ni eu cyrraedd oherwydd yr ymosodiadau o’r awyr,” meddai Abu Nasr, sy’n un o’r ymgyrchwyr yn erbyn y llywodraeth yn nhref Hrytan.

“Mae’r sefyllfa’n drychinebus. Mae nifer fawr o bobol yn ffoi.”

Mae Hrytan, i’r gogledd o Aleppo, wedi bod yn weddol tawel ers dechrau’r gwrthryfel yn Syria ym mis Mawrth 2011, pryd y dechreuodd protestwyr, wedi eu hysbrydoli gan y Gwanwyn Arabaidd, bwyso am ddiwygio glweidyddol.

Trais

Mae cyfundrefn Bashar Assad wedi ceisio atal y gwrthryfel rhag lledaenu trwy ddefnyddio trais – penderfyniad sydd wedi ysgogi’r gwrthryfelwyr eu hunain i godi arfau erbyn hyn.

Dangosodd fideo amatur ar y we bore ‘ma olygfeydd o fwg yn codi o sawl ardal o gwmpas y dref, wrth i’r llais tu ôl i’r camera ddisgrifio’r ymosodiadau bore ‘ma.

Roedd fideo arall, ychydig cyn toriad gwawr, yn llawn sŵn gynnau a gweddiau o uchelseinyddion y mosgiau.

Mae’r gwrthryfelwyr yn mynnu bod yr ymosodiad diweddaraf yn dystiolaeth fod yr Arlywydd Assad yn ceisio sathru ar y rheiny sy’n gwrthwynebu ei gyfundrefn cyn i’r cadoediad ddod i rym.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod mwy na 50 wedi marw ddoe yn unig. Maen nhw’n honni nad yw Assad ond wedi cytuno i gynllun y cadoediad er mwyn prynu mwy o amser iddo’i hun a’i gynllun i gael gwared ar y gwrthryfelwyr.