Mae trafferthion trydan yn parhau mewn rhai ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru ar ôl tywydd garw ac eira ddoe.

Y bore ‘ma dywedodd llefarydd ar ran Scottish Power wrth Golwg360 fod “rhai cartrefi dal heb drydan, yn arbennig yn ardaloedd Abergele a Llanrwst”.

Cafwyd adroddiadau lleol fod y trydan wedi diffodd tua phedwar o’r gloch fore ddoe ym mhentrefi Llangernyw, Pentrefoelas a Llanfairtalhaearn. Fe ddaeth yn ôl rai oriau’n ddiweddarach yn Llanfairtalhaearn ond fe fu’n rhaid i lawer o gartrefi yn Llangernyw aros gan ganol fore heddiw.

“Nid oes un nam penodol, ond mae peirianwyr yn gweithio ar hyn o bryd i ddatrys y problemau a rydym ni’n gobeithio bydd y cyflenwad yn dychwelyd i bawb erbyn diwedd y dydd”, ychwanegodd llefarydd Scottish Power.