Rhan o Mogadishu (Sarah 12 Trwydded GNU)
Mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera’n dweud bod gwrthryfelwyr wedi hawlio cyfrifoldeb am ffrwydrad a laddodd ddau o brif swyddogion chwaraeon Somalia.
Roedd yr ymosodiad gan hunan-fomiwr wedi digwydd wrth i Brif Weinidog y wlad roi araith yn y theatr genedlaethol sydd newydd gael ei hailagor.
Mae’r ffaith bod gwrthryfelwyr al-Shabab wedi mynd mor agos at ei daro yntau’n pwysleisio’u bod yn parhau i fod yn fygythiad mawr.
Penaethiaid chwaraeon
Roedd pedwar o bobol wedi cael eu lladd i gyd, meddai Al Jazeera, a’r rheiny’n cynnwys penaethiaid pêl-droed a champau Olympaidd y wlad.
Mae asiantaethau newyddion eraill yn cynnig ffigurau gwahanol – gan ddweud bod chwech, neu hyd yn oed ddeg, o bobol wedi eu lladd.
Roedd y gwrthryfelwyr wedi gadael y brifddinas, Mogadishu, yn ystod y mis diwetha’ ond maen nhw wedi cynnal nifer o ymosodiadau ers hynny.