Mae’r farchnad lyfrau Gymreig wedi gwneud yn well na gweddill gwledydd Prydain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru.
Mae gwerthiant llyfrau Cymreig drwy Ganolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau wedi cynyddu 1% dros y 12 mis diwethaf, tra bod gwerthiant llyfrau trwy wledydd Prydain wedi gostwng 6-8%.
Roedd y newyddion yn galonogol iawn, meddai Prif Weithredwr y Cyngor, sy’n gyfrifol am werthu llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru.
Yn ôl Elwyn Jones, mae’r cynnydd mewn gwerthiant wedi bod yn weddol gyfartal ar draws y llyfrau Cymraeg a’r llyfrau Saesneg.
Cymraeg – cofiannau’n hwb
“Ar yr ochr Gymraeg, ryden ni wedi gweld ystod arbennig o dda o gofiannau cryf fel rhai Elinor Wigley, Sian James a Dafydd Jones dros y flwyddyn ddiwethaf, ac fe fu cofiant llenyddol Alan Llwyd i Kate Roberts werthwr arbennig mewn clawr meddal a chlawr caled,” meddai wrth Golwg 360.
Mae’n dweud bod nofelau gan rai o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, fel Lloyd Jones, Llwyd Owen, Mihangel Morgan ac Eigra Lewis Roberts, hefyd wedi cael blwyddyn dda o werthiant.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n wir yn y rhan fwyaf o ieithoedd mai’r cofiannau a’r nofelwyr poblogaidd sy’n gwerthu orau,” meddai.
Ond mae hefyd yn dweud bod rhai llyfrau coginio Cymraeg wedi gwerthu’n dda iawn dros y Nadolig eleni, a llyfr comedi Ffarmwr Ffowc.
Saesneg – chwaraeon yn arwain
“Ar yr ochr Saesneg, ryden ni wedi gweld toreth arbennig o lyfrau chwaraeon yn cael eu cyhoeddi eleni,” meddai Elwyn Jones.
“Ryden ni’n llawn sylweddoli’r her sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd,” meddai,. “Mae unrhyw gynnydd yn y gwerthiant yn newyddion hynod o galonogol.”