Y chwarel 'uffernol' (Llun y Parc)
Pan oedd cyfarwyddwr enwog eisiau golygfa “uffern ar y ddaear” ar gyfer ei ffilm newydd, fe benderfynodd fynd i ardal Merthyr Tudful.

Erbyn hyn mae Wrath of the Titans yn dangos mewn sinemâu trwy wledydd Prydain gyda’r olygfa apocalyptaidd ola’ wedi ei ffilmio mewn hen chwarel ym mannau Brycheiniog.

Heddiw, mae Parc Cenedlaethol y bannau wedi datgelu ble y cafodd y ffimlio’i wneud y llynedd, gan ddweud eu bod “yn falch iawn” bod yr ardal wedi ei dewis.

Mae’r ffilm, gan y cyfarwyddwr Jonathan Liebesman, yn dilyn y ffantasi gynharach Clash of the Titans ac mae’n cynnwys actorion enwog fel Sam Worthington, Ralph Fiennes, Liam Neeson a Rosamund Pike.

Brwydr fawr

Mae’n gorffen gyda brwydr fawr mewn hen ddinas Roegaidd lle mae Kronos tad y duw Zeus yn creu uffern ar y ddaear a dynion yn brwydro yn erbyn grymoedd yr Isfyd.

Roedd yr olygfa honno’n cynnwys bron 1,000 o actorion a chriw cynhyrchu ac fe gawson nhw ganiatâd arbennig i ailagor y chwarel ar gyfer hynny. Fe fuon nhw’n ffilmio yn yr ardal am bythefnos.

“R’yn ni’n awyddus iawn i annog ffilmio yn y Parc Cenedlaethol, nid yn unig oherwydd bod gyda ni gymaint o dirweddau amrywiol ond oherwydd yr hwb mawr y gall ei roi i’n cymunedau lleol,” meddai Samantha Games, swyddog PR y Parc a fu’n helpu’r tîm cynhyrchu.