Mae’r soprano o Gymru,  Katherine Jenkins yn parhau i swyno’r beirniaid ar y rhaglen Dancing with the Stars yn yr Unol Daleithiau.

Dyma’r fersiwn Americanaidd o Strictly Come Dancing, ac mae Katherine wedi bod yn cael hwyl arni gyda’i phartner Mark Ballas.

Fe sgoriodd 29 pwynt allan o 30 yr wythnos hon am y walts oedd wedi dewis ei dawnsio i gofio’r flwyddyn 1996 pan fu farw ei thad o ganser yr ysgyfaint.

Mi wnaeth Katherine grio ar ôl gorffen y ddawns ac mi wnaeth un o’r beirniaid grio hefyd.

Dywedodd Len Goodman fod Katherine yn “ddawnswraig wych.”