Terfysg yn Syria
Mae Arlywydd Rwsia, Dimitri Medvedev, wedi cynnig pob cefnogaeth i ymweliad Kofi Annan er mwyn ceisio dod a heddwch i Syria ac osgoi rhyfel cartref.
Dywedodd yr Arlywydd na ddylid rhoi terfyn amser na chyfyngu ar ymdrechion i ddod a heddwch i’r wlad.
Ychwanegodd Mr Medvedev y bydd Rwsia yn cynnig cefnogaeth ‘ar bob lefel’ i Kofi Annan.
Mae Mr Annan eisiau i Rwsia fod yn llawer mwy llym ei hagwedd tuag at lywodraeth yr Arlywydd Bashar as-Assad. Bu Rwsia yn gefnogwr brŵd o Syria hyd yn hyn.
Bwriad Mr Annan yw mynd i China cyn bo hir hefyd i ofyn am genfogaeth i’w ymgyrch gan fod China yn un o gefnogwyr selocaf Syria.
Dywed Kofi Annan fod ganddo gynllun heddwch 6 phwynt sy’n galw ar lywodraeth Syria i roi’r gorau i ddefnyddio arfau trymion mewn ardaloedd poblog.
Yn y gorffennol mae Rwsia wedi pleidleisio ddwywaith yn erbyn dau gynnig gerbron Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ynglyn â Syria ond yr wythnos diwethaf fe wnaeth China gefnogi d