Gweddillion yr awyren yn 1988
Mae papur y Sunday Herald yn yr Alban wedi cyhoeddi yr adroddiad gan Gomisiwn Adolygu Achosion Trosedd yr Alban oedd yn sylfaen i achos apêl arfaethedig gan Abdelbasel al-Megrahi garcharwyd am osod bom mewn awyren uwchben Lockerbie yn 1988.

Cafodd al-Megrahi ei ryddhau a’i ddychwelyd i Libya yn 2009 am ei fod yn diodde o gancr y prosdad ac o fewn misoedd i farw. Mae’n dal yn fyw.

Penderfynodd y papur newydd gyhoeddi’r adroddiad yn llawn ar ei wefan yn dilyn cadarnhad gan Arglwydd Eiriolwr yr Alban na fuasai aelodau’r Comisiwn yn cael eu herlid am gyhoeddi manylion o’r adroddiad.

Dywed datganiad ar ran y papur eu bod wedi cael caniatad gan al-Megrahi i gyhoeddi’r ddogfen a’u bod yn credu bod cyhoeddi er llês y cyhoedd gan ychwanegu bod gan newyddiadurwyr yr hawl i wneud hyn o dan Adran 32 o’r Ddeddf Gwarchod Data.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond wedi croesawu gweithred y papur yn cyhoeddi’r ddogfen 821 tudalen.

“Rwy’n croesawu cyhoeddiad llawn o’r adroddiad sef rhywbeth y mae llywodraeth yr Alban wedi ei ddeisyfu ers tro,” meddai. “Rwyf yn croesawu yn benodol y ffaith fod yma gofnod llawn o’r trafodaethau yn hytrach na’r pytiau sydd wedi ymddangos yn y wasg yn ystod yr wythnosau diwethaf.”

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Goron yn yr Alban eu bod wedi bod yn bryderus iawn am ymdrechion i fynd dros ben llestri yn gyhoeddus wrth gyhoeddi peth o gynnwys yr adroddiad ar y cyfryngau a hynny allan o’i gyd-destun.

Ychwanegodd beth bynnag nad oedd y Comisiwn wedi canfod unrhyw dystiolaeth bod yr heddlu, y Goron, gwyddonwyr fforensig na chynrychiolwyr eraill o gyrff ac asiantaethau’r llywodraeth wedi ffugio unrhyw dystiolaeth.