Mae Gweinidog Cartref Ffrainc wedi gwadu adroddiadau bod y dyn 24 oed sy’n cael ei amau o ladd pedwar o bobl tu allan i ysgol Iddewig wedi cael ei arestio.
Ond dywed heddlu Ffrainc y byddan nhw’n gorfodi eu ffordd i mewn i fflat Mohammad Merah os na fydd yn ildio.
Mae Merah, sy’n honi bod ganddo gysylltiadau â al Qaida, yn cael ei amau o saethu’n farw athro, tri o blant a thri milwr yn ardal Toulouse.
Mae’r Ffrancwr, sydd o dras Algeraidd, wedi treulio cyfnodau yn Afghanistan a Phacistan.
Roedd Merah wedi saethu at yr heddlu pan naethon nhw gyrraedd ei fflat yn gynharach heddiw.
Roedd cannoedd o blismyn wedi amgylchynu’r bloc o fflatiau, ac ar ôl ymdrechion i gael Merah i ildio fethu, fe benderfynodd yr heddlu symud y preswylwyr o’r adeilad.
Mae Merah yn honi ei fod eisiau dial am ladd plant Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol.
Cafwyd hyd i arfau yng nghar Merah ac mae’n debyg bod ganddo nifer o ddrylliau yn ei fflat.
Mae ei fam, ei frawd a chyfaill ei frawd yn cael eu holi gan yr heddlu.