Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enwau’r chwe milwr o Brydain gafodd eu lladd mewn ffrwydrad yn Afghanistan ddoe.

Roedd y Sarsiant Nigel Coupe, 33 yng Nghatrawd Dug Caerhirfryn; ac roedd y Corporal Jake Hartley, 20, y Preifat Anthony Frampton, 20, Preifat Christopher Kershaw, 20, Preifat Daniel Wade, 20, a’r Preifat Daniel Wilford, 21, i gyd o Gatrawd Swydd Efrog.

Cafodd y chwech eu lladd ar ôl i’w cerbyd gael ei daro gan ffrwydryn tra roedden nhw ar batrôl yn Helmand nos Fawrth.

Heddiw, roedd Pennaeth y Lluoedd Arfog wedi mynnu na fydd y strategaeth filwrol yn Afghanitstan yn newid, er gwaetha’ marwolaeth y chwech o filwyr.

Yn ôl y Cadfridog Syr David Richards, mae Prydain yn mynd i “ddal eu tir” a pharhau â’r gweithgareddau yn yr ardal nes 2014 – er gwaetha’r ymosodiad mwyaf gwaedlyd ers i’r ymgyrch yno ddechrau yn 2001.