Mae cwmni archfarchnadoedd Morrisons wedi cyhoeddi elw cyn-treth o £935 miliwn yn ystod 2011.

Morrisons yw’r pedwerydd archfarchnad fwyaf yn y Deyrnas Gyfunol a daw’r cyhoeddiad yn dilyn cystadleuaeth prisiau gyda’r archfarchnadoedd eraill.

Dywedodd prif wethredwr y cwmni, Dalton Philips, fod y cynnyrch rhad M Savers wedi bod yn boblogaidd a bod yr archfarchnad yn cynnig “cynigion mae pobl yn eu deall”.

Mae gan Morrisons 27 o ganghenau yng Nghymru a 455 cangen yn y DU. Mae’r cwmni wedi cyhoeddi bwriad i agor siopau cyfleuster llai o faint ar ôl treialu gyda thair siop fach y llynedd.