Prif Weinidog Awstralia Julia Gillard
Mae Gweinidog Tramor Awstralia wedi ymddiswyddo gan ddweud na all barhau yn ei rôl heb gefnogaeth y Prif Weinidog Julia Gillard.

Fe gyhoeddodd Kevin Rudd ei fod yn ymddiswyddo bore yn ystod cynhadledd i’r wasg yn Washington lle mae ar ymweliad  swyddogol ar hyn o bryd.

Mae na ddyfalu wedi bod ers rhai dyddiau bod  Kevin Rudd  yn bwriadu disodli Julia Gillard.

Daeth Julia Gillard, sy’n enedigol o’r Barri ym Mro Morgannwg, i rym ym mis Mehefin 2010 gan ddisodli Kevin Rudd fel Prif Weinidog.

Ond dywedodd Kevin Rudd heddiw: “Y gwir amdani yw bod pobl Awstralia yn gweld yr holl beth fel rhyw opera sebon ac mae nhw’n iawn,” meddai. “Ac o dan yr amgylchiadau presennol, dydw i ddim am fod yn rhan ohoni.”

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, roedd yn feirniadol iawn o benderfyniad y Blaid Lafur i’w ddisodli ac fe addawodd na fyddai’n gwneud yr un peth i brif weindiog oedd mewn grym.