Canol Bangkok
Roedd tri dyn o Iran gafodd eu harestio ar ôl tanio ffrwydron drwy gamgymeriad yn eu cartref ar rent yn Bangkok yn cynllwynio i ymosod ar ddiplomyddion o Israel.

Dyna y mae pennaeth heddlu Gwlad Thai, y Cadfridog Prewpan Dhamapong, yn ei honni. Mae Israel eisoes wedi dweud fod y dynion yn derfysgwyr oedd yn cael eu nawdd o Iran.

“Roedd eu targed nhw’n un penodol iawn, sef gweithwyr diplomyddol o Israel,” meddai Prewpan Dhamapong ar deledu’r wlad.

Cadarnhaodd fod y bomiau ‘gludiog’ a ddaethpwyd o hyd iddynt yn dilyn y ffrwydrad ddydd Mawrth yn ymdebygu i’r rheini oedd wedi eu gosod ar geir diplomyddion o Israel yn India a Georgia ddyddiau ynghynt.

“Roedd y ffrwydron a ddefnyddwyd gan y dynion yr un fath, sef y math sy’n cael eu glynu at gerbydau,” meddai.

Mae prif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi beirniadu’r trais, ond mae llefarydd ar ran gweinyddiaeth tramor Iran, Ramin Mehmanparast, wedi dweud nad oes sail i’r honiadau.

Ymdrech gan Israel yw’r cwbl i wneud niwed i berthynas Iran â Gwlad Thai, meddai. Mae Iran hefyd yn beio Israel am lofruddiaeth gwyddonwyr niwclear yn Iran.

Beth ddigwyddodd?

Yn ôl llywodraeth Gwlad Thai roedd tri dyn o Iran wedi tanio ffrwydron yn eu cartref ar rent ar stryd brysur Sukhumvit, Bangkok ddydd Mawrth.

Cafodd dau o’r dynion eu harestio yn Bagkok ddydd Mawrth ar ôl ffoi o’r tŷ, a chafodd y trydydd ei arestio ym Malaysia ar ôl hedfan o Bangkok i Kuala Lumpur dros nos.