Fe fydd  Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ystyried a ddylid rhoi eli haul am ddim i blant ar ôl derbyn deiseb ag arni 9,000 o enwau, yn galw am roi eli haul i bob plentyn dan 11 oed yng Nghymru.

Bydd  Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad yn ystyried argaeledd eli haul, a hefyd mentrau eraill i warchod plant rhag effaith ddinistriol yr haul, fel mannau cysgodi yn yr ysgol a chyngor ar ddillad addas i’w gwisgo yn yr heulwen.

Gwarchod plant rhag canser y croen

“Mae digon o dystiolaeth sy’n dangos mai golau uwchfioled sy’n achosi’r nifer fwyaf o achosion o ganser y croen,” dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

“Ymhlith y cwestiynau y byddwn yn eu gofyn fel rhan o’r ymchwiliad yw a yw’r polisïau a’r canllawiau presennol ar amddiffyn pobl rhag yr haul yn effeithiol o ran amddiffyn plant rhag yr haul, ac, os nad ydynt, lle y mae angen gwella.”

“Byddwn yn ystyried hefyd a oes digon o ymwybyddiaeth o bolisïau presennol ar amddiffyn pobl rhag yr haul ac, os nad oes, beth yw’r ffordd orau i godi ymwybyddiaeth.”

“Byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â barn ar y mater gysylltu â ni i gynnig ei sylwadau neu i wneud awgrymiadau.”

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth i’w hystyried gan y Pwyllgor naill ai anfon e-bost at PwyllgorPPL@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich tystiolaeth  yw  Mawrth 9, 2012.