Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae ymosodiad  wedi bod ar biblinell olew yn ninas Homs, yn Syria.

Yn ôl adroddiadau mae’r biblinell yn Baba Amr, ardal o’r ddinas sy’n cael ei rheoli gan y gwrthryfelwyr.

Mae milwyr y llywodraeth hefyd wedi ymosod ar nifer o ardaloedd preswyl yn Hama, dinas gyfagos i Homs, yn ôl ymgyrchwyr.

Honnodd yr ymgyrchwyr fod y milwyr wedi torri cysylltiadau ffon, ffonau symudol a’r rhyngrwyd cyn ymosod ar y ddinas.

‘Terfysgwyr arfog’

Dywedodd Sana, asiantaeth newyddion y wladwriaeth yn Syria, fod “terfysgwyr arfog” wedi ymosod ar y biblinell.

Mae llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad wedi beio “terfysgwyr” a chynllwynion o dramor am yr argyfwng yn Syria, yn hytrach na phrotestwyr yn galw am ddiwygiad democrataidd.

Honnodd yr Arsyllfa hefyd fod milwyr y llywodraeth wrthi’n ymosod ar faestref Barzeh yn Damascus, ac wedi carcharu ugeiniau o bobl.

Ceir adroddiadau hefyd fod y llywodraeth wedi ymosod ar bentref Ashaara yn rhanbarth Dwyreiniol Deir el-Zour.