Nikitta Grender
Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio merch feichiog 19 oed wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Casnewydd heddiw.

Mae Carl Whant, 27,  yn gwadu llofruddio cariad ei gefnder, Nikitta Grender a’r plentyn yn ei chroth.

Roedd corff Nikitta Grender wedi ei ddarganfod yn ei fflat fis Chwefror y llynedd, bythefnos cyn roedd disgwyl iddi roi genedigaeth i’w babi. Roedd hi wedi cael ei thrywanu a’i chorff wedi ei losgi.

Roedd archwiliad post mortem yn dangos bod semen Whant wedi ei ddarganfod yng nghorff Nikitta Grender.

‘Gwahoddiad i gael rhyw’

Dywedodd Whant bod ei gefnder a chariad Nikkita Grender, Ryan Mayes, wedi ei wahodd i gael rhyw gyda Nikitta Grender.

Ychwanegodd Whant mai nid dyma’r tro cyntaf i’r ddau “rannu” merch.

Dywedodd Whant, oedd yn gwerthu ffenestri dwbl ynghyd â’i gefnder, ei fod wedi mynd â Ryan Mayes yn ôl i’r fflat roedd yn ei rannu gyda Nikkita Grender yn Broadmead Park, Llysweri, Casnewydd ar Chwefror 4 ar ôl i’w shifft orffen.

Ar ôl treulio 10 munud ar ei ben ei hun  yn cael sigarét dywedodd Whant bod Mayes wedi ei wahodd i’r stafell wely i gael rhyw gyda Nikkita Grender. Aeth Mayes allan o’r ystafell ac, yn ôl Whant, roedd Nikitta “i weld yn fodlon” cael rhyw.

“Roedd yn un o’r pethau ‘na, roedd jyst wedi digwydd,” meddai Whant.

‘Celwydd’

Wrth agor achos yr amddiffyniad, fe ofynodd Christopher Kinch QC i Whant a oedd wedi llofruddio Nikitta Grender, wedi lladd ei phlentyn yn y groth, wedi ei threisio ac wedi rhoi ei fflat ar dân.

Atebodd “na” i bob un o’r cwestiynau.

Dywedodd Whant ei fod wedi dweud celwydd wrth yr heddlu pan ofynwyd iddo’n wreiddiol a oedd wedi cael rhyw gyda Nikitta Grender. Dywedodd wrth Christopher Kinch QC ei fod wedi gwneud hynny am ei fod yn teimlo embaras gan ei fod wedi bod yn anffyddlon i’w gariad Rachel Bird.