Dudley Newbery a disgyblion ei hen ysgol
Mae diffyg maeth yn achosi 2.6 miliwn o farwolaethau ymysg plant bob blwyddyn – sef traean o’r holl farwolaethau ymhlith plant o dan bump oed, yn ol adroddiad gan elusen Achub y Plant heddiw.

Mae cost yr argyfwng cudd hwn yn enfawr, medd yr elusen, gydag amcangyfrif bod effeithiau diffyg maeth ymysg plant wedi costio bron i £77 biliwn i’r economi ryngwladol yn 2010.

Y cogydd Dudley Newbery fydd wyneb newydd yr ymgyrch gan Achub y Plant yng Nghymru i dynnu sylw at beryglon diffyg maeth.

Wrth i’r elusen gyhoeddi rhybudd rhyngwladol am y perygl i filiynau o blant wrth i bris bwyd gynyddu, mae Dudley Newbery wedi galw ar lywodraethau i gamu mewn i arbed plant rhag dioddef o ddiffyg maeth.

“Dylai arweinwyr llywodraethau’r byd wneud mwy i helpu’r plant yma,” meddai Dudley heddiw, wrth i Achub y Plant gyhoeddi eu hadroddiad newydd sy’n rhoi darlun tywyll iawn o ddioddefaint plant ar draws y byd oherwydd diffyg maeth: ‘Bywyd yn Rhydd o Newyn: Mynd i’r afael â diffyg maeth mewn plant’.

Diffyg maeth

Wrth lansio’r ymgyrch yn ei hen ysgol gynradd, Ysgol Gymraeg Pont Sion Norton, gyda chriw o ddisgyblion yr ysgol, dywedodd ei bod hi’n “bwysig pwysleisio i blant yma yng Nghymru pa mor lwcus y maen nhw fod cymaint  o fwydydd maethlon ar gael yn y wlad hon.

“Fel rhiant mae’n anodd dychmygu peidio gallu rhoi i’ch plant y mathau o fwydydd sy’n eu helpu nhw i dyfu lan yn gryf ac yn iach.

“Eto, mae miliynau o blant yn y byd yn dal i farw o newyn a diffyg maeth yn syml am na all eu teuluoedd dyfu neu fforddio i brynu bwyd fel llysiau, llaeth a chig,” meddai.

“Mae diffyg bwyd maethlon yn golygu bod cyrff y plant hynny yn cael eu llwgu o’r holl fitaminau a mwynau sydd ei angen arnynt. Effaith hyn yw bod datblygiad naturiol eu cyrff a’u hymennydd yn cael ei arafu neu ei ‘styntio’.

“Er enghraifft erbyn y bydd plentyn yn Niger yn 30 mis oed mi fydd 8cm yn llai na phlentyn o’r un oed yma yng Nghymru, yn bennaf oherwydd nad yw’n bwyta’r math iawn o fwyd.”

Galw ar y Llywodraeth i arwain y ffordd

Nawr mae Achub y Plant yn galw ar Lywodraeth Prydain i arwain y ffordd a chreu’r digwyddiad mwyaf mewn hanes i leihau newyn a chwtogi’r niferoedd sy’n marw o 25%.

Mae’r elusen yn galw ar y Prif Weinidog David Cameron i sefydlu Uwchgynhadledd Newyn Byd-eang yn y Gêmau Olympaidd pan fydd arweinwyr y byd i gyd yn Llundain, gan gytuno ar gynllun penodol ar sut i fynd i’r afael â newyn.

Mae’r elusen eisiau gweld pecyn o fesurau yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys atgyfnerthu bwydydd sylfaenol gyda fitaminau, annog bwydo o’r fron i fabanod a gwell buddsoddiad mewn trosglwyddiadau arian gyda’r taliadau wedi eu hanelu at y teuluoedd tlotaf.

Mae’r galwadau’n rhan o ymgyrch ehangach yr elusen i godi ymwybyddiaeth o effeithiau newyn a diffyg maeth: ‘Nid Oes Yr Un Plentyn Wedi Ei Eni i Farw’.

Wrth hyrwyddo’r ymgyrch, fe fydd Dudley Newbery yn cael ei gefnogi gan sêr fel Myleene Klass, y fodel Erin O’Connor, Natasha Kaplinsky a’r beirniad bwyd Jay Rayner.