Mae tân yng ngharchar cenedlaethol Honduras wedi lladd hyd tua 300 o garcharorion.
Fe ddigwyddodd y tân yn y carchar yn nhref Comayagua, rhyw 90 milltir o’r brifddinas Tegucigalpa.
Roedd tua 800 o garcharorion yn y carchar, sydd wedi ei losgi i’r llawr.
Dechreuodd y tân neithiwr, a chymerodd hi rhyw awr i gael y fflamau dan reolaeth.
Dywedodd Lucy Marder, pennaeth y gwasanaethau fforensig yn Comayagua, fod o leiaf 272 o bobl wedi marw, a bod ansicrwydd am nifer o bobl eraill.
Golygfeydd ‘uffernol’
Roedd yna olygfeydd “uffernol,” yn ôl Josue Garcia, llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân Comayagua. Roedd rhyw “100 o garcharorion wedi’u llosgi i farwolaeth neu wedi mygu yn eu celloedd,” dywedodd y llefarydd.
Dywedodd hefyd fod nifer o’r meirw yn methu dianc am fod neb yn gwybod lle oedd y swyddog dioglewch oedd yn cadw’r allweddi i’r celloedd.
Mae swyddogion yn ymchwilio i achos y tân.
Mae Honduras ymhlith y gwledydd tlotaf yng Nghanolbarth America.