Whitney Houston
Mae corff y gantores Whitney Houston wedi cael ei gludo yn ôl i’w chartref yn New Jersey wrth i’w theulu drafod cynlluniau ar gyfer ei hangladd.

Yn ôl adroddiadau mae’r teulu yn ystyried cynnal gwasanaeth ar ddydd Iau ac angladd Ddydd Gwener mewn canolfan yn Newark sy’n gallu cynnal hyd at 18,000 o bobl.

Roedd corff Whitney Houston wedi ei ddarganfod yn y bath yng ngwesty’r Beverly Hilton yn Los Angeles ddydd Sadwrn.