Canghellor George Osborne
Mae’n bosib y bydd statws credyd Prydain yn cael ei israddio oherwydd pryderon am dyfiant yr economi ac effaith posib argyfwng yr ewro.

Dywedodd yr asiantaeth Moody’s neithiwr bod Prydain yn  wynebu colli ei statws AAA.

Yn ôl y Canghellor George Osborne mae hyn yn “profi na all Prydain osgoi fynd i’r afael â’i dyledion.”

Chwyddiant

Yn y cyfamser mae disgwyl i raddfa chwyddiant ostwng i’w lefel isaf ers dwy flynedd heddiw – arwydd bod y pwysau yn dechrau lleihau.

Mae disgwyl i Fynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ostwng i 3.5% ym mis Ionawr, o 4.2% ym mis Rhagfyr.