Mae disgwyl i’r cwmni cyfryngau cymdeithasol, Facebook, dorri pob record wrth werthu cyfrannau ar y farchnad.

Yn ôl rhai adroddiadau, fe allai hynny godi cymaint â $5 biliwn i’r cwmni sy’n cael ei ddefnyddio gan 845 miliwn o bobol bob mis.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwerthu’r cyfrannau trwy gynnig cyhoeddus cychwynnol ac mae disgwyl mai hwn fydd y mwya’ erioed i gwmni o’r fath.

Yn 2004, roedd y cwmni chwilio-ar-y-we, Google, wedi codi $1.9 biliwn wrth werthu cyfrannau ar y farchnad agored.

Dyw cynnig Facebook ddim yn cynnwys asesiad o werth y cwmni ond, yn ôl rhai arbenigwyr, fe allai fod cymaint â $100 biliwn. Fe wnaeth y cwmni elw o $1 biliwn y llynedd.

Mae’r cynnig hefyd yn dangos mai sylfaenydd y cwmni, Mark Zuckerberg, 27 oed, sy’n berchen ar bron draean o’r holl gyfrannau.