Mae’r cwmni fferyllol AstraZeneca wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared â 7,300 o swyddi erbyn diwedd 2014 fel rhan o gynlluniau’r cwmni arbed costau.
Mae’r cwmni’n cyflogi 61,000 o weithwyr yn fyd eang – 8,000 o’r rheiny yn y DU. Roedd y cwmni wedi torri 12,600 o swyddi rhwng 2007 a 2009 a 9,000 arall erbyn diwedd 2011.
Dywedodd y cwmni, oedd wedi cau eu safle yn Charnwood, ger Loughborough y llynedd, bod yn rhaid ad-drefnu’r cwmni oherwydd yr economi bregus a chystadleuaeth gan gwmnïau fferyllol eraill.
Mae gan y cwmni safloedd yn Sir Gaer, Bryste, Macclesfield, Caergrawnt, Luton, Llundain a Dyfnaint.
Dyw’r cwmni heb gyhoeddi eto yn lle fydd yn swyddi’n diflannu.