Roedd yna ostyngiad bach yn ffigurau gwrando Radio Cymru a Radio Wales yn ystod chwarter ola’r llynedd.
Roedd y cwymp i’r ddwy orsaf yn fwy o gymharu â’r un cyfnod yn 2010 ond mae mwy o bobol wedi bod yn gwrando ar radio lleol y BBC – er gwaetha’ cynlluniau i dorri ar eu gwario.
Roedd Radio Cymru’n cyrraedd 134,000 o bobol bob wythnos yn ystod y tri mis at fis Rhagfyr – 4,000 yn llai nag yn y tri mis cynt ac 19,000 yn llai nag yn chwarter ola’r flwyddyn gynt.
Roedd gostyngiad tebyg yn ffigurau Radio Wales – er bod yr orsaf ei hun yn pwysleisio bod pobol yn gwrando am ragor o oriau.
Mae’r cynnydd yng nghynulleidfaoedd gorsafoedd radio lleol y BBC yn Lloegr yn dilyn galwad gan Gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Chris Patten, am ailystyried toriadau yn eu cyllid.
Cwmni o’r enw Rajar sy’n cyhoeddi’r ffigurau.