Rhodri Davies a thelyn ar lawr
Mae telynor o Aberystwyth yn un o lond dwrn o artistiaid sydd wedi cael grant “sylweddol” gan Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes yn Efrog Newydd.
14 o artistiaid sydd wedi cael y grant o $25,000, sy’n cael ei roi bob blwyddyn i gefnogi artistiaid profiadol sydd â dawn “eithriadol.”
Mae Rhodri Davies – sy’n byw gyda’i wraig Angharad a’i ferch fach Elliw yn Gateshead, ger Newcastle Upon Tyne – yn perfformio celf sain byrfyfyr gyda’r delyn.
Rhoddir y grantiau ers 1993 i roi hwb i yrfa artistiaid sy’n flaengar yn eu maes, ac eisoes wedi profi’u hunain.
Cydnabyddiaeth
“Mae cydnabyddiaeth a chefnogaeth o’r math yma yn rhoi amser dilyffethair i artistiaid er mwyn iddyn nhw allu arbrofi gyda syniadau newydd a pharhau gyda’u gwaith,” meddai Stacy Stark, Prif Weithredwr y Sefydliad.
Bu Rhodri Davies, sy’n ddeugain oed, yn cyfeilio ar y delyn i Charlotte Church ar ddechrau ei yrfa. Bydd yn creu gwaith byrfyfyr ar y delyn trwy gyfuno electroneg a gwynt, dŵr a thân ac mae wedi cydweithio gyda cherddorion o bedwar ban byd sy’n arbenigo mewn celfyddyd sain.
Dyma’r rhestr o bobol sy’n cael grant Sefydliad Celfyddydau Cyfoes eleni a’u gwahanol feysydd:
DAWNS
Beth Gill, Ridgewood, Efrog Newydd
Ralph Lemon, Efrog Newydd
Jen Rosenblit, Brooklyn, Efrog Newydd
CERDDORIAETH/SAIN
Jace Clayton, Brooklyn, Efrog Newydd
Rhodri Davies, Gateshead, Prydain
CELF BERFFORMIO/THEATR
Ei Arakawa, Brooklyn, Efrog Newydd
Justin Vivian Bond, Efrog Newydd
Thomas Bradshaw, Evanston, Illinois
Grace Schwindt, Llundain
BARDDONIAETH
Jack Collom, Boulder, Colorado
Tan Lin, Efrog Newydd
CELF WELEDOL
Daniel Bozhkov, Efrog Newydd
William E. Jones, Los Angeles,
Kate Millet, Efrog Newydd