Cast Fala Surion
Bydd addasiad llwyfan Cymraeg o un o lyfrau ffuglen cyfoes gorau Cymru yn mynd ar daith o gwmpas Cymru’r Gwanwyn yma (28 Chwefror – 28 Mawrth).
Mae Fala Surion yn gynhyrchiad theatr o nofel arobryn Fresh Apples gan Rachel Trezise, a enillodd wobr fawreddog EDS Dylan Thomas yn 2006.
Mae’r sioe, sy’n cael ei chynhyrchu gan Cwmni’r Frân Wen, Ynys Môn, yn gasgliad o straeon byrion emosiynol, pwerus, a miniog wedi’i seilio ar fywyd arddegau yn y Gymru gyfoes.
Y cast
Ymhlith y cast mae’r actorion Rhodri Meilir, fu’n actio yn rhaglen gomedi boblogaidd y BBC My Family, Catrin Mara sy’n actio yn Pobol y Cwm, a Rhodri Miles a enillodd y wobr Artist Rhyngwladol Gorau yn yr Hollywood Fringe Festival yn 2010 am ei bortread o’r eicon Cymraeg Richard Burton.
Seren arall ymhlith y cast yw Lowri Gwynne o Rownd a Rownd, S4C a’r actores llwyfan Lynwen Haf Roberts, sydd newydd orffen cyfnod yn chwarae’r brif ran yng nghyfieithiad Cymraeg y Theatr Genedlaethol o sioe gerdd ddadleuol a phoblogaidd Frank Wedekind, Spring Awakening.
‘Emosiwn amrwd’
“Fe gafodd emosiwn amrwd a phŵer uniongyrchol y nofel effaith ddwys arna i,” dywed Meilir, sy’n 33 oed a fu hefyd yn actio yn Terry Pratchett’s Hogfather ar Sky One.
“Mae’n archwiliad ysgytwol o ddiniweidrwydd glasoed gyda gwythïen o gomedi tywyll yn rhedeg drwyddi. Mae ‘na adegau yn y llyfr sy’n gwneud i chi chwerthin, sy’n cynyddu tynerwch y straeon. Mae’n fath o hiwmor fydd y Cymry yn ei werthfawrogi ac yn gallu cydymdeimlo ag o,” ychwanegodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Maes Garmon.
‘Hiwmor tywyll’
Mae gwaith Tresize wedi cael ei alw’n ‘ffuglen Cymraeg trefol’ sy’n adlewyrchu anialdir emosiynol a materol y Gymru drefol.
“Lle bynnag mae yna boen gwirioneddol; tlodi, gormes gwleidyddol, anghyfiawnder, mae yna jôcs da a hiwmor tywyll a byw iawn yn bodoli,” dywed yr awdur 33 mlwydd oed o Gwm Rhondda.
“Yn aml iawn tydw i ddim yn sylwi fod yr hyn dwi’n ‘sgwennu yn ddoniol. Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar nofel sydd wedi ei lleoli yn America gyda chymeriadau Uniongred Iddewig a rhai cymeriadau o Dde America, ac mae eu hagwedd nhw tuag at hiwmor yn debyg iawn i un fy nghymeriadau Cymraeg.”
Cyfieithu
Mae llyfrau Trezise wedi cael eu cyfieithu i nifer o wahanol ieithoedd ond dyma’r tro cyntaf i un gael ei gyfieithu i’r Gymraeg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Iola Ynyr ei bod hi wrth ei bodd yn gweithio hefo sgriptwyr Fala’ Surion, Manon Eames a Catrin Dafydd, fu’n cyfieithu’r gwaith o Saesneg i Gymraeg. Mae hi’n teimlo eu bod nhw ymhlith y goreuon yng Nghymru, ac “wedi bod yn ddewr iawn wrth drosglwyddo’r cymeriadau o’r tudalennau i’r llwyfan.
“Maen nhw wedi defnyddio hiwmor tywyll, tlodi a gorthrwm i bortreadu bywyd trefol Cymru yn ei holl ogoniant,” ychwanegodd cyfarwyddwr artistig Cwmni’r Frân Wen.
Fala’ Surion
28 Chwefror 2012 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth *
29 Chwefror 2012 Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
2 Mawrth 2012 Canolfan Taliesin, Abertawe
7 Mawrth 2012 Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
9 Mawrth 2012 Galeri, Caernarfon *
10 Mawrth 2012 Galeri, Caernarfon
13 & 14 Mawrth 2012 Theatr John Ambrose, Ruthin
15 & 16 Mawrth 2012 Chapter, Caerdydd *
21 & 22 Mawrth 2012 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
24 Mawrth 2012 Pontio, Bangor
26 Mawrth 2012 Theatr Colwyn, Bae Colwyn
28 Mawrth 2012 Theatr Lyric, Caerfyrddin
Am ragor o wybodaeth a thocynnau ewch i www.falasurion.com neu 01248 715 048.
* Trafodaeth ar ôl y perfformiad gyda Rachel Trezise a’r tîm artistig.