Mae perchnogion llong bleser y Costa Concordiad wedi cynnig €11,000 o iawndal i deithwyr am fagiau coll a thrawma seicolegol.
Aeth y llong i drafferth oddi ar arfordir Tuscany pan benderfynodd capten y llong fynd a’i gwch oddi ar y llwybr dynodedig. Mae 16 o gyrff bellach wedi cael eu darganfod, ond me 16 yn dal ar goll – a’r gred yw eu bod hefyd wedi marw.
Mae’r cwmni sy’n berchen ar y Costa Concordia, Costa Crociere SpA, yn dweud y byddan nhw hefyd yn ad-dalu teithwyr am gost llawn eu taith, eu costau teithio, ac unrhyw gostau meddygol a ddaeth yn sgil y ddamwain.
Daeth y datganiad wedi cyfnod o drafod rhwng cynrychiolwyr Costa a grwpiau prynwyr a defnyddwyr o’r Eidal, sy’n dweud eu bod nhw’n cynrychioli 3,206 o deithwyr llongau pleser o 61 gwlad na chafodd unrhyw niwed pan aeth y llong i drafferth ar 13 Ionawr.
Fydd y cytundeb yma ddim yn berthnasol i’r cannoedd o griw ar y llong, na’r 100 o achosion o bobol gafodd anafiadau, neu deuluoedd a gollodd perthnasau.
Fe fydd hi’n bosib i deithwyr ddechrau achos cyfreithiol eu hunain os na fyddan nhw’n hapus gyda’r cytundeb – ac mae rhai eisoes wedi dechrau achos yn erbyn capten y llong Francesco Schettino, sydd wedi ei gyhuddo o ddynladdiad, achosi damwain llong, a gadael y llong cyn bod y teithwyr wedi gadael.
Mae’r capten wedi cyfaddef iddo fynd â’r llong ar “daith twristaidd” ond wedi dweud nad oedd y creigiau a darodd y llong ar ei fapiau morwrol.