Boris Johnson
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi ei gyhuddo o fethu a dangos arweiniad heddiw, wedi i bennaeth banc gafodd ei achub gan y trethdalwyr dderbyn bonws sy’ werth bron i £1miliwn.
Mae cyflog gwerth £963,000 Stephen Hester o Fanc yr RBS wedi ysgogi storm o feirniadaeth gan ASau ar draws y pleidiau, gan gynnwys Maer Ceidwadol Llundain, Boris Johnson.
Gallai Stephen Hester, sydd â chyflog gwerth £1.2miliwn, gael 3.6miliwn o gyfranddaliadau gan y banc – er mai’r trethdalwr sydd biau 83% o RBS ers i’r Llywodraeth ei achub gydag arian cyhoeddus.
Dim ond 60% o’r tâl bonws posib yw’r £963,000 – gan fod peth pwysau gwleidyddol wedi bod ar y banc i gadw’r taliad mor fach â phosib.
Ond heddiw dywedodd arweinydd Llafur, Ed Miliband, fod y Prif Weinidog wedi methu â gwireddu ei addewidion ar dorri taliadau afresymol i benaethiaid, a rheoli mwy ar daliadau trwy gyfranddaliadau.
“Mae’r arweiniad gan y Prif Weinidog ar hyn yn gywilyddus,” meddai Miliband.
“Mae e wedi bod yn addo am fisoedd ei fod am weithredu yn erbyn taliadau bonws afresymol, a thâl penaethiaid, a nawr mae e wedi rhoi sêl ei fendith ar fonws gwerth miliwn o bunnoedd.
“Mae e hefyd wedi bod yn mynnu y dylai cyfranddalwyr fod mwy blaenllaw wrth ddal eu penaethiaid i gyfri.
“Mae e, trwy Lywodraeth Prydain, yn berchen ar 83% o’r RBS.
“Rhaid iddo nawr esbonio, yn enwedig i bobol Prydain, pam ei fod wedi gafael hyn i ddigwydd.”
Boris yn beirniadu’r bancars
Ymunodd Boris Johnson â’r beirniaid heddiw hefyd, gan ddweud ei fod yn ei chael hi’n “anodd cyfiawnhau” maint y taliad.
Dywedodd wrth y BBC fod ganddo gydymdeimlad â Stephen Hester, a’i fod eisiau gweld diwedd ar yr holl feirniadu banciau sydd ar hyn o bryd.
Ond dywedodd fod y tâl bonws yn “rhyfeddol” o ystyried mai’r wladwriaeth oedd berchen y banc.
“Mae’r syniad nad yw hyn o fewn rheolaeth y Llywodraeth ychydig yn gamarweiniol.”