Mae pump o blismyn Heddlu’r De wnaeth barhau i fynd ar ôl lleidr mewn car, gan anwybyddu gorchymyn i roi’r gorau iddi, wedi derbyn cerydd ysgrifenedig.
Daw’r rhybudd swyddogol wedi i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) ymchwilio i’r ffordd y buodd Lee Lewis farw mewn damwain draffig ger Port Talbot ar Fai 18, 2008.
Yn oriau mân y bore hwnnw roedd Lewis yn gurru car Ford Fiesta yr oedd wedi ei gymryd heb ganiatâd y perchennog, ac fe gafodd ei weld gan heddlu yn ardal Port Talbot yn teithio heb oleuadau.
Ar ôl i’r plismyn geisio dal Lewis, mi yrrodd i ffwrdd, a thra’n cael ei erlid gan yr heddlu mi aeth i fewn i wal ym Mharc Margam. Aeth Lewis i’r ysbyty a bu yno am 12 diwrnod cyn marw ar ôl i’w waed gael ei heintio.
Roedd Ystafell Reoli’r Heddlu wedi gofyn i’r plismyn beidio â mynd ar ôl Lewis, gan nad oedden nhw’n yrwyr cymwys mewn cerbydau cymwys.
Bu i’r plismyn yrru hyd at 87 milltir yr awr ar ffordd 60 milltir yr awr mewn cau gar a dau fan wahanol.
Cafodd yr IPCC y pum swyddog yn euog o fethu ufuddhau i orchymyn i roi’r gorau i ddilyn Lee Lewis.
Daeth yr IPCC i’w casgliad ym Mawrth 2009. Ond dim ond heddiw y maen nhw’n gallu tynnu sylw at y mater yn gyhoeddus, wedi i reithgor Cwest benderfynu ddoe yn Abertawe bod Lewis wedi marw o ‘sepsis’ ac ‘anafiadau lluosog’.