Jean Dujardin, a enillodd Golden Globe am The Artist
Y ffilm ‘Hugo’ gan Martin Scorsese a’r ffilm ddi-sain, du a gwyn ‘The Artist’ sydd wedi cipio’r nifer fwyaf o enwebiadau am Oscar eleni.
Mae’r ffilm ‘Hugo’ wedi cael 11 enwebiad, tra bod ‘The Artist’ wedi cael 10, gan gynnwys enwebiad am yr actor gorau i Jean Dujardin. Fe fydd yn cystadlu yn erbyn George Clooney (The Descendants), Demian Bichir (A Better Life), Brad Pitt (Moneyball) a Gary Oldman (Tinker Tailor Soldier Spy).
Mae Meryl Streep wedi’i henwebu am Oscar am ei pherfformiad fel Margaret Thatcher yn y ffilm The Iron Lady. Ymhlith yr enwebiadau eraill am yr actores orau mae Glenn Close (Albert Nobbs), Viola Davis (The Help), Rooney Mara (The Girl with the Dragon Tattoo) a Michelle Williams (My Week With Marilyn).
Mae Meryl Streep wedi ennill dau Oscar yn barod ac wedi cael ei henwebu am Oscar 16 o weithiau yn y gorffennol.
Fe gafodd yr enwebiadau eu cyhoeddi heddiw yn Beverly Hills gan Jennifer Lawrence.
Mae Kenneth Branagh 51, wedi’i enwebu am yr actor cynorthwyol gorau am ei rôl fel Syr Laurence Olivier yn My Week With Marilyn.
Fe gafodd Janet McTeer, 50, ei henwebu am ei rôl fel yr actor cynorthwyol gorau yn y ddrama Albert Nobbs.
Mae ffilm Steven Spielberg War Horse wedi’i enwebu am chwe gwobr ac yn un o’r ffilmiau sy’n cystadlu am y ffilm orau.