Bryn Terfel
Mae cerddor sydd wedi cefnogi Gŵyl y Faenol yn y gorffennol wedi dweud ei fod yn “siomedig” yn dilyn y newydd diweddaraf am gynnal yr ŵyl yn Llundain eleni.

Daw sylwadau Dafydd Iwan ar ôl i’r canwr byd-enwog a sefydlydd Gŵyl y Faenol, Bryn Terfel, gyhoeddi ddoe y bydd yr ŵyl fawreddog yn cael ei chynnal eleni, ond nid yn ei chartref traddodiadol ar Ystâd y Faenol ger Bangor.

Pedair blynedd ers i’r ŵyl gael ei chynnal diwethaf, fe gyhoeddodd y bariton o Bantglas y byddai’r Faenol yn dychwelyd yn 2012, ond i lwyfan yn Llundain y tro hwn.

Hon fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ers y trafferthion ariannol a darodd yr ŵyl yn ôl yn 2008. Bydd yr ŵyl yn cynnwys pedair noson o gerddoriaeth opera, theatr gerdd, comedi a cherddoriaeth bop, gan artistiaid Cymraeg a di-Gymraeg, sydd i’w cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Fe fydd yr ŵyl yn  cael ei chynnal rhwng 4-7 Gorffennaf fel rhan o Ŵyl y Byd Canolfan Southbank, meddai’r Ganolfan mewn datganiad.

‘Rhoi rhywbeth yn ôl?’

“Rhan ganolog o Ŵyl y Faenol oedd ei lleoliad hi,” meddai Dafydd Iwan wrth Golwg360.

“Pwrpas mawr Bryn Terfel oedd rhoi rhywbeth yn ôl i’r ardal yma. Os ei chynnal hi yn Llundain mae hynny i gyd yn mynd.

“Ein blaenoriaeth ni sy’n gweithio yn y byd cerdd yng Nghymru yw sicrhau bod y llwyfan yng Nghymru.

“Wrth gwrs bod eisiau llwyfan rhyngwladol, ond adeiladu cyfleoedd yng Nghymru yw’r prif bwrpas i ni,” meddai’r canwr oedd yn dweud bod y newydd yn “siomedig.”

Fe ddywedodd Ywain Myfyr, trefnydd gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau na “allai feddwl am drefnu Sesiwn Fawr yn Llundain. Rydan ni’n trio rhoi adloniant i’n pobol ein hunain,” meddai.

“Mae ‘na ddigon o waith cenhadu yn ein gwlad ein hunain a chael pobl i wrando ar gerddoriaeth ni’n hunain. Dw i’m yn gweld pwynt hyn.”

“Alla’ i ddim gweld bysus yn mynd o Sir Fôn fel oedden nhw i’r Faenol yn llawn aelodau cymdeithasau lleol – allai i ddim gweld nhw’n trefnu bys yn mynd i’r Southbank Centre – yn enwedig yn ystod yr hinsawdd economaidd yma.

“Fwy na bod yr Olympics yn stori Gymreig – dw i’m yn meddwl bod egwyddor Faenol bellach yn stori Gymreig.”

‘Sylw i artistiaid Cymraeg’

Ond mae’r cerddor Arfon Wyn yn cefnogi’r newyddion.

“Dw i’n meddwl bod o’n beth reit dda. Mae’r ŵyl wedi bod yn stryglo… Mewn ffordd, mae’r ŵyl mewn trafferthion yn yr ardal yma beth bynnag. Mae’n beth da os caiff artistiaid Cymraeg sylw gan fod yr Olympics yn dod yna.

“Mae’n un ffordd i Gymru gael ei chydnabod achos caiff Cymru ddim ei chydnabod yn yr Olympics,” meddai.

“Neith o ddim drwg iddyn nhw wneud sbloets yn Llundain.

“Wnes i fwynhau gŵyl Radio 1 yn y Faenol lot mwy na Tan y Ddraig – roedd gen ti lot o grwpiau da Cymreig newydd yn yr ŵyl Radio 1 fel Masters in France. Tydi’r Faenol ’rioed di bod yn hollol Gymreig, maen nhw wedi cael grwpiau fel Westlife.

“O leiaf geith Cymru sylw cyn yr Olympics – cheith hi ddim fel arall.”