Bryn Terfel
Mae’r canwr byd-ewog a sefydlydd Gŵyl y Faenol, Bryn Terfel, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yr ŵyl fawreddog yn cael ei chynnal eto eleni, ond nid yn ei chartref traddodiadol ar Ystad y Faenol ger Bangor.
Pedair blynedd ers i’r ŵyl gael ei chynnal ddiwethaf, fe gyhoeddodd y baritôn o Bantglas ar ei gyfri Twitter heddiw y byddai’r Faenol yn dychwelyd yn 2012, ond i lwyfan yn Llundain y tro hwn.
“Bydd Gŵyl y Faenol yn dychwelyd ym mis Gorffennaf am bedair noson, ychydig cyn y Gemau Olympaidd,” meddai yn ei neges.
“Dim gwybodaeth ar gael eto, ond llond trol o syniada,” addawodd Bryn Terfel, gyda “phedair noson” o ŵyl ac “artistiaid di-ri gobeithio.”
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Southbank yn Llundain am bedair noson rhwng 4 a’r 7 Gorffennaf eleni, ac yn rhan o’r Olympiad Diwylliannol.
Bydd yr ŵyl yn cynnwys pedair noson o gerddoriaeth opera, theatr gerdd, comedi a cherddoriaeth pop, gan artistiaid Cymraeg a di-Gymraeg, sydd i’w cyhoeddi yn yr wyhnosau nesaf.
Dywedodd Bryn Terfel heddiw y byddai’r ŵyl yn cynnig “llwyfan i Gymru cyn y Gemau Olympaidd,” ac mae disgwyl i’r ŵyl gynnwys digwyddiadau darllen barddoniaeth, gweithdai iaith Gymraeg a marchnad fwyd Cymreig, yn ogystal â gweithdai cerddorol.
Hon fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ers y trafferthion ariannol a darodd yr ŵyl yn ôl yn 2008.