Ian Jones
Mae Prif Weithredwr newydd S4C yn dechrau ar ei waith heddiw.
Fis Hydref y llynedd, fe wnaeth S4C gyhoeddi mai Ian Jones fydd Prif Weithredwr newydd y sianel.
Cyn hyn, roedd yn gweithio fel rheolwr gyfarwyddwr gyda chwmni A&E Television Networks yn Efrog Newydd.
Eisoes, mae wedi diolch i bawb am y negeseuon ar wefan Twitter.
Dywedodd mai “Cydweithio, Cyfathrebu, Uchelgais, Hyder a Beiddgarwch” fyddai “geiriau’r misoedd a’r blynyddoedd nesa.”
Mae Ian Jones, sy’n wreiddiol o Dreforys, Abertawe wedi gweithio yn y diwydiant teledu ers bron i 30 mlynedd ym maes darlledu, cynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol.
Roedd yn rhan o’r tîm lansiodd S4C ym 1982 ac ar ôl gweithio yn adran adloniant rhwydwaith ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol, ail-ymunodd ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chyd-gynyrchiadau o 1992 i 1997.