Am y tro cyntaf yn ei hanes, dylunydd o Gymru fydd yn creu Pafiliwn Pensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Cylch Dylunio a Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) wedi cyhoeddi cystadleuaeth ddylunio, lle bydd y cynnig buddugol yn cael ei adeiladu ym Mhrifwyl Bro Morgannwg yn Llandŵ.

Bydd y cynllun buddugol yn cael ei weld gan 150,000 o ymwelwyr.

Yn ystod yr ŵyl fis Awst, cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau yn y pafiliwn buddugol gan gynnwys cyflwyno Y Fedal Aur am Bensaernïaeth (Medal Goffa Alwyn Lloyd) a gefnogwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, Y Plac er Teilyngdod a’r Ysgoloriaeth Bensaernïaeth.

‘Pensaernïaeth yn niwylliant y genedl’

“Un o brif amcanion yr Eisteddfod Genedlaethol yw tynnu sylw’r cyhoedd at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anrhydeddu penseiri sy’n cyrraedd y safonau dylunio uchaf. Bydd y fenter gyffrous hon yn ein harwain yn bell ar hyd y ffordd er mwyn cyrraedd y nod,” meddai Angharad Pearce Jones, Cadeirydd Panel Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod.

“Dyma dystiolaeth bellach o’r gydnabyddiaeth barhaus i fwrlwm pensaernïaeth yng Nghymru, y mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn falch o fod yn rhan ohono.”

Mae’r Eisteddfod yn gobeithio y bydd y Pafiliwn Pensaernïaeth “yn adlewyrchu’r weledigaeth ar gyfer Pensaernïaeth yng Nghymru yn 2012” ac yn cynnig gofod i bobl gael eu hysbrydoli wrth ddathlu’r celfyddydau.

Dyma’r tro cyntaf i’r RSAW a’r Cylch Dylunio gydweithio’n uniongyrchol gyda’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn cynnal cystadleuaeth.

“Ryden ni eisiau i’r rheiny sy’n taro heibio’r Pafiliwn Pensaernïaeth i gael ei swyno a’u cyffroi gan yr adeilad ei hunan. Pa ffordd well o gyflawni hyn nag annog syniadau arloesol, llawn dychymyg o blith ein hymarferwyr unigol a’n myfyrwyr?” meddai Andrew Sutton, Llywydd RSAW.