Tri Tenor Cymru
Er gwaetha’r dirwasgiad economiadd, mae gwerthiant cyffredinol cwmni Sain (Recordiau) Cyf wedi cynyddu 10%, a throsiant y cwmni i fyny 16.6% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, yn ol ffigyrau’r cmwni am y 3 mis hyd at y Nadolig.
“Yr hyn sy’n drawiadol yw’r cynnydd mewn gwerthiant CD,” meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain.
“Er bod y duedd fyd-eang yn dangos lleihad cyson mewn gwerthiant CD, mae ein gwerthiant CD ni eleni i fyny 3.6%, ond eto mae ein gwerthiant lawrlwytho digidol i fyny gymaint â 45%!” meddai.
Tri Tenor a John Owen-Jones
Yn ôl y Prif Weithredwr, mae llawer o hyn yn codi o lwyddiant artistiaid fel Tri Tenor Cymru a’r seren West End John Owen-Jones, a’r “diddordeb parhaol byd-eang yng nghorau Cymru.”
“Mae llwyddiant ein polisi o drwyddedu cynnyrch Cymraeg a Chymreig i labeli eraill ar draws y byd hefyd wedi ychwanegu at ein hincwm fel cwmni, a gobeithiwn ehangu ar hyn yn ystod ein hymweliad â MIDEM – y ffair fasnach ryngwladol ar gyfer cerddoriaeth yn Cannes ddiwedd y mis.”
Mae siop y cwmni yng Nghaernarfon, Na-Nog hefyd yn dangos cynnydd da, sy’n groes i’r hyn sy’n digwydd mewn llawer o siopau’r Stryd Fawr, meddai.
“Yn y tri mis hyd at y Nadolig, cododd ei gwerthiant 14.65%, ac roedd ei ffigyrau am fis Tachwedd y gorau yn hanes y siop.”
DVD
Yr unig nodyn o siom yn yr adroddiad, yn ôl y Prif Weithredwr, oedd y ffigyrau gwerthiant DVD, oedd i lawr 13% dros y 3 mis.
“Mae’r rhan fwyaf o’n cynnyrch yn apelio at blant,” meddai Dafydd Roberts, “ond mae fformat y DVD yn dioddef y dyddiau hyn, yn bennaf am ei bod mor hawdd i recordio oddi ar y teledu. Bydd rhaid inni edrych eto ar y maes hwn a gweld os allwn ni ddatblygu cynnyrch sydd ddim i’w weld mor barod ar deledu.”