Galeri Caernarfon
Fe fydd Canolfan Gerdd William Mathias yn talu teyrnged i Ben Muskett a fu’n ysbrydoli pobl ifanc fel tiwtor cerdd.
Cafodd Ben Muskett, 25 oed, ei ladd mewn damwain car fis Ionawr y llynedd.
Roedd Ben, o Fethesda yn wreiddiol yn Bennaeth Cerdd yn Ysgol Uwchradd Llanidloes ac yn Diwtor Piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.
Yng Nghyngerdd Ben, bydd rhai o’i gyd-diwtoriaid a rhai o’i ddisgyblion yn dod at ei gilydd mewn cyngerdd mawreddog i “dalu teyrnged i’r athro ifanc fu’n gymaint o ysbrydoliaeth.”
Bydd elw’r noson yn mynd tuag at Gronfa Canolfan Gerdd William Mathias er cof am Ben, i hybu cerddorion ifanc.
Ymhlith y cyfranwyr bydd Iwan Llewelyn-Jones (piano), Côr Siambr CGWM (arweinydd Jenny Pearson) Elinor Bennett (telyn) a Rhiannon Mathias (ffliwt), Glian Llwyd & Sioned Webb (deuawd), Patrick Rimes (ffidil), a Evy King (piano), Lowri Preston (cello) a Aeron Preston (piano), Gwenno Morgan (piano).
Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal am 7.30pm, 3 Chwefror yn Theatr Galeri Caernarfon.