Llythyr Churchill
Fe fydd un o raglenni S4C yn datgelu cysylltiad diddorol rhwng y cyn-Brif Weinidog, Winston Churchill, a theulu o Aberafan yn ne Cymru.
Yn y rhaglen Darn Bach o Hanes bydd y cyflwynydd Rhodri Llwyd Morgan yn cwrdd a Peter Williams yn ei gartre’ yn y dref.
Roedd tad-cu Peter, Major Williams yn yr un bataliwn, chweched bataliwn y Scots Fusiliers, â’r gwleidydd enwog, Winston Churchill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Ar ôl y rhyfel, fe arhoson nhw mewn cysylltiad. Ar ôl streic y glowyr a’r dirwasgiad economaidd, fe gollodd fy nhad-cu ei waith yn y pwll glo. Fe ysgrifennodd at Churchill i ofyn am waith yn y Weinyddiaeth Amddiffyn,” meddai Peter Williams.
Yn ei lythyr dyddiedig 1929, a gafodd ei anfon o Santa Barbara, California, ysgrifennodd Churchill: “I’m extremely glad that you have obtained a post under the government as a result of my intervention.
“When I return to England in mid November I will write to you again to see how you are getting on. Naturally, I would do anything I could but I have no influence with the present government. Sincerely Yours. Winston Churchill.”
Teyrnged i Churchill
Ond fel y datgela ei wŷr Peter, roedd gan Churchill gryn ddylanwad o hyd er mai Llywodraeth Llafur Ramsay Macdonald oedd mewn grym ar y pryd. Fe lwyddodd i gael swydd i John Williams yn y Weinyddiaeth Llafur.
Roedd e mor ddiolchgar i Winston Churchill fel y gwnaeth enwi ei fab ei hun – tad Peter – yn ‘Robert Winston Spencer Williams’ yn deyrnged iddo.
Fe aeth ei dad fel ei dad-cu i’r fyddin hefyd, gan ymuno â’r Royal Tank Regiment yn 1938. Fe wasanaethodd yng Ngogledd Affrica yn ystod yr Ail Ryfel Byd nes iddo gael ei ddal gan yr Almaenwyr a’i wneud yn garcharor rhyfel tan 1944.
Mae’n siŵr bod yr Almaenwyr wedi sylwi ar yr enw trawiadol – ond dyw Peter ddim yn credu bod pobl yng Nghymru bob amser wedi dotio ar yr enw!
“Rhaid cofio bod Winston Churchill yn cael ei gasáu yn ne Cymru gan lawer am y ffordd yr oedd wedi delio â streic y glowyr ond roedd rhaid i fy nhad ddwyn yr enw am weddill ei fywyd,” meddai Peter.
Darn Bach o Hanes, 23 Chwefror, 9pm