Mae Mwslimiaid Chineaidd wedi bod yn brwydro â swyddogion a ddymchwelodd mosg yng ngogledd-orllewin y wlad, meddai’r heddlu heddiw.

Dywedodd lefarydd ar ran gorsaf heddlu Hexi, tref yn rhanbarth Ningxia, fod torf wedi ceisio atal chwalu’r adeilad nos Wener.

Ychwanegodd fod tua 80 o bobol wedi eu harestio a’r mosg wedi ei chwalu.

Dywedodd y Ganolfan Gwybodaeth o Blaid Hawliau Dynol a Democratiaeth, yn Hong Kong, fod yr awdurdodau wedi chwalu’r mosg am ei fod yn adeilad crefyddol anghyfreithlon.

Dywedodd y ganolfan fod eu ffynonellau nhw yn awgrymu fod dau berson wedi marw o ganlyniad i’r trais, ond nad oedden nhw’n gallu cadarnhau hynny.

Yn ôl y llefarydd ar ran gorsaf heddlu’r dref doedd yna ddim marwolaethau.