Y dafarn cyn y tân
Mae’r gwasanaethau brys yn ymchwilio wedi tân mewn hen dafarn yng nghymoedd y de.

Galwyd saith injan dân i dafarn segur The Old Mill, Bargod, am 4.38am y bore ma.

Mae’r ffordd o flaen y dafarn ar gau yn y ddau gyfeiriad wrth i’r gwasanaethau brys archwilio’r adeilad. Mae’n debygol na fydd Bridge Street yn ailagor nes ddydd Mawrth.

Dywedodd y gwasanaethau brys fod trydydd llawr ac atig yr adeilad wedi cydio erbyn iddyn nhw gyrraedd. Doedd neb yn yr adeilad ar y pryd a chafodd y tân ei ddiffodd erbyn 9am.