Mae 23 aelod o Heddlu Gogledd Cymru ymysg dros 900 o heddweision a swyddogion gwasanaeth yn y gymuned ar draws Cymru a Lloegr sydd â chofnod troseddol.
Yn ôl arolwg newydd mae heddluoedd Cymru a Lloegr yn cyflogi heddweision sydd wedi eu cael yn euog o fyrgleriaeth, achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, lladrad, darparu cyffuriau, trais yn y cartref, ac atal cwrs cyfiawnder.
Ond roedd y rhan fwyaf o’r rheini sydd â chofnod troseddol wedi eu cael yn euog o droseddau trafnidiol gan gynnwys gyrru’n rhy gyflym ac yfed a gyrru.
Roedd gan un o heddweision Heddlu De Swydd Efrog gofnod troseddol am bysgota heb drwydded.
Mae gan 944 o heddweision a swyddogion gwasanaeth yn y gymuned ar draws Cymru a Lloegr gofnod troseddol, yn ôl ffigyrau a ddarparwyd gan 33 o’r 34 heddlu.
Doedd sawl un o’r heddluoedd ddim yn gallu darparu gwybodaeth oedd yn dyddio o’r cyfnod cyn i’w staff ymuno â’r heddlu, sy’n awgrymu y gallai’r ffigwr fod yn llawer uwch mewn gwirionedd.
Roedd gan 23 aelod o Heddlu Gogledd Cymru gofnod troseddol, gan gynnwys un swyddog oedd wedi ei gael yn euog o ffugiad.
Roedd gan bedwar aelod o Heddlu Dyfed-Powys gofnod troseddol, a doedd gan yr un o heddweision Heddlu Gwent gofnod troseddol “ers mis Gorffennaf 2007”.
Gwrthododd Heddlu De Cymru ymateb i’r cais rhyddid gwybodaeth ar sail cost.
Mae canllawiau’r Swyddfa Gartref yn annog heddluoedd i wrthod darpar recriwtiaid sydd wedi eu cael yn euog o droseddau difrifol.