Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio wedi gwrthdrawiad car laddodd dwy ddynes yn Llanrug yn ystod oriau cynnar dydd Calan.

Roedd Siân Gwenllian Lloyd Davies, 21 oed, a Sasha Jarvis, 19, y ddwy o Lanberis, yn teithio mewn Vauxhall Corsa arian pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Roedd un yn gyrru a’r llall yn deithiwr pan darodd y car wal yn y pentref tua 6am bore ddoe. Y gred yw bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar y car.

Roedd y ddwy ferch wedi marw yn y fan a’r lle. Digwyddodd y ddamwain ar yr A4086 ger tafarn Glyntwrog.

Roedd Sasha Jarvis  yn gweithio yng nghartref gofal Plas Garnedd, a Siân Davies yn gweithio mewn tafarn.

Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Maen nhw eisiau clywed gan unrhyw un a welodd y Corsa arian yn teithio yn ardal Llanrug a Llanberis rhwng 5.30am a 6.00am.

Cafodd y car ei symud ddoe ac mae crwner gogledd orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, wedi cael gwybod am y marwolaethau.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 0300 3300101.