Simon Thomas
Mae’r Aelod Cynulliad, Simon Thomas, wedi galw am ragor o gymorth i fusnesau bach a canolig yn dilyn cyfnod y Nadolig.

Dywedodd fod Plaid Cymru yn galw am ostwng trethi busnes i ragor o gwmnïoedd ac yn ffafrio busnesau yng nghanol trefi yn hytrach na datblygiadau ar y cyrion.

“Mae Plaid yn deall fod angen cymorth ar ein busnesau bach a canolig nawr, yn enwedig yn y cyfnod anodd yn syth ar ôl y Nadolig,” meddai Simon Thomas, un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

“Dyma pam ein bod ni mewn llywodraeth wedi sicrhau na fyddai tua hanner y busnesau bychan yng Nghymru yn talu trethi busnes o gwbl ac wedi lleihau trethi busnes cwmnïoedd eraill yn sylweddol.

“Rydyn ni’n gwybod fod ein busnesau yn pryderu y bydd y cynllun yn dod i ben o dan y Blaid Lafur. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gostyngiad mewn trethi busnes nid yn unig yn parhau ond yn cael ei ymestyn i gwmnïoedd eraill dros y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd ei fod yn annog pobol a chwmnïoedd sydd â diddordeb yn y pwnc i gyfrannu at y grŵp tasg sy’n adolygu’r polisi ar drethi busnes yng Nghymru.

“Mae angen bod yn deg â busnesau bychan, yn hytrach na ffafrio datblygiadau mawr y tu allan i drefi fel sydd yn digwydd ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae Plaid eisiau cefnogi canol trefni nid eu gwasgu nhw allan o fodolaeth.”