Aung San Suu Kyi
Mae Llywodraeth Burma wedi cymeradwyo cofrestru plaid arweinydd yr wrthblaid, Aung San Suu Kyi ar gyfer isetholiad.
Mae hyn yn golygu bod y grŵp sy’n ymgyrchu dros ddemocratiaeth yn ôl yn arena wleidyddol y wlad.
Cafodd Aung San Suu Kyi, cyn-enillydd Gwobr Heddwch Nobel, ei rhyddhau ar 13 Tachwedd ar ôl bod yn gaeth yn ei chartref am dros saith mlynedd.
Fis diwethaf, fe wnaeth y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth Aung San Suu Kyi benderfynu ail ymuno â gwleidyddiaeth yn y wlad filwrol.
Fe wnaeth y blaid foicotio etholiadau’r llynedd oherwydd cyfyngiadau oedd yn rhwystro’r arweinydd rhag bod yn ymgeisydd. Ers hynny, mae’r Llywodraeth wedi codi llawer o’r cyfyngiadau.
Heddiw, mae’r comisiwn etholiadol wedi derbyn cais y Blaid i gofrestru. Yn ôl y Blaid, bydd y cais yn cael ei wneud yn ffurfiol wythnos nesaf, meddai papur newydd The New Light of Myanmar.
Mae apeliadau’r arweinydd yn y gorffennol wedi’u diystyru neu eu gwrthod.