Mae Plaid Cymru wedi cefnogi galwadau eu brodyr Celtaidd yng Nghernyw am Gynulliad eu hunain heddiw.
Fe gyflwynwyd Cynnig Bore Cynnar gan ASau Plaid Cymru i’r Senedd yn San Steffan heddiw, er mwyn tynnu sylw at y diffyg datblygiad i’r Cynulliad Cernywaidd.
Daw’r cynnig union ddegawd ers i ddeiseb gyda 50,000 o enwau arni gael ei chyflwyno i Downing Street yn cefnogi sefydlu’r Cynulliad Cernywaidd.
Mae’r Cynnig yn mynegi “siom na weithredodd y Llywodraeth ar bwnc y ddeiseb,” ac yn dweud bod y methiant i sefydlu Cynulliad Cernywaidd wedi creu “diffyg democrataidd.”
Un o’r Aeloedau Seneddol fu ynghlwm â’r Cynnig heddiw oedd cynrychiolydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards.
“Mae’r wythnos hon yn nodi 10 mlynedd ers cyflwyno’r Datganiad dros Gynulliad Cernywaidd yn Llundain gyda 50,000 o lofnodion arno – sef 10% o holl oedolion Cernyw,” meddai Jonathan Edwards.
Cafodd yr ymgyrch ‘Datganiad dros Gynulliad Cernywaidd’ ei threfnu gan Mebyon Kernow, sef chwaer blaid Plaid Cymru.
“Er fod Llafur wedi datganoli pwerau i Gymru a’r Alban, ni wnaethant ganiatau i Gernyw bleidleisio dros ei Chynulliad ei hun,” meddai.
Cafodd Jonathan Edwards ei wahodd i siarad yng nghynhadledd flynyddol Mebyon Kernow fis Tachwedd eleni, ac mae’n dweud y gallai datganoli grymoedd i Gernyw ddod â’r un manteision i Gernyw ag y gwnaeth i Gymru.
“Mae datganoli wedi arwain at newidiadau cadarnahol mewn rhannau eraill o’r DU ond yr hyn a wnaethant yng Nghernyw oedd cael gwared ar lywodraeth leol a chael cyngor Cernyw-gyfan heb rymoedd cynulliad – cipio pwerau o gymunedau mewn gwirionedd.
“Dylai Llywodraeth y DU roi ystyriaeth o ddifri i sefydlu Cynulliad Cernywaidd.”