Mae dau wedi eu lladd a 10 wedi eu hanafu yn dilyn ffrwydrad yn ninas Liège yn ardal ddeheuol gwlad Belg.

Yn ol adroddiadau gan lygad dystion roedd dyn wedi taflu pedwar ffrwydryn llaw at safle bws yn sgwâr ganolog y dref, Place Saint-Lambert, tua hanner dydd heddiw.

Cyrhaeddodd yr heddlu yn fuan wedi’r digwyddiad ac atal y cyhoedd rhag mynd i’r sgwâr.

Mae rhai adroddiadau heb eu cadarnhau fod y dyn a daflodd y ffrwydron ymhlith y meirw.

Mae sianel deledu VRT yng Ngwlad Belg yn dweud bod y dyn, sydd heb ei adnabod eto, wedi cael ei anafu gan yr ymosodiadau.