Mae na rybudd y gellir disgwyl rhagor o dywydd stormus yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos.
Mae’r swyddfa dywydd wedi dweud eu bod yn cadw llygad ar y sefyllfa ar ôl i wyntoedd 60 milltir yr awr effeithio ar rai rhannau o Gymru neithiwr. Cafwyd 40mm o law mewn rhai mannau yn ne Cymru yn ystod y 12 awr ddiwethaf.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi dweud eu bod yn parhau i rybuddio pobl am y tywydd stormus yr wythnos hon.
Er bod disgwyl i’r tywydd dawelu heddiw, mae glawiad neithiwr wedi golygu bod lefelau afonydd yn uwch na’r arfer mewn llawer o lefydd, meddai’r asiantaeth.
Ar hyn o bryd, mae 21 rhybudd gorlifo ar gyfer afonydd ar draws y wlad.
Mae rhybuddion hefyd am orlifo arfordirol yng Ngorllewin Sir Fôn a Phenrhyn Llŷn o ganlyniad i wyntoedd cryfion i’r gorllewin.
Mae disgwyl i law a gwyntoedd cryfion gyrraedd Cymru ddydd Iau a dydd Gwener.
Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud eu bod yn cadw llygad ar y sefyllfa yn ystod y dyddiau nesaf. Maen nhw wedi bod yn profi amddiffynfeydd a systemau monitro gyda theledu cylch cyfyng ac yn symud rhwystrau all gynyddu risg llifogydd.
Mae’r ail Bont Hafren M48 wedi bod ar gau am gyfnod heddiw o ganlyniad i’r tywydd garw – ond mae ar agor nawr, meddai llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru wrth Golwg360.