Hywel Williams AS
Mae Aelod Seneddol Arfon wedi rhybuddio heddiw y gallai rhagor o wasanaethau cyfrwng Cymraeg Cymru gael eu peryglu yn sgil torri’n ôl ar swyddfeydd rhanbarthol y DVLA.
Heddiw, fe gyhoeddodd Adran Drafnidiaeth San Steffan gynlluniau i gau swyddfeydd rhanbarthol y DVLA yng Nghaerdydd a Bangor – a 37 arall ar draws Prydain – er mwyn canoli’r swyddi i gyd ym mhencadlys y DVLA yn Abertawe.
Ond yn ôl Hywel Williams, mae bygythiad gwirioneddol i’r gwasanaeth Gymraeg os yw’r cynlluniau’n cael eu gweithredu.
“Fel y mae cyrff llywodraeth eraill sy’n ceisio gwneud toriadau wedi canfod, mae goblygiadau difrifol iawn i’r iaith Gymraeg ynghlwm a chau gwasanaethau yng ngogledd Cymru,” meddai Hywel Williams.
Yn ôl yr Aelod Seneddol dros Blaid Cymru, mae’r problemau eisoes wedi eu gweld yn nhoriadau’r gwasanaeth Cyllid a Thollau, yr HMRC, ym Mhorthmadog, a gyda’r toriadau i’r bad achub yng Nghaergybi.
“Byddwn eto’n cyflwyno achos cryf y dylai gwasanaeth cyfrwng Cymraeg fodoli o fewn cymunedau sy’n siarad Cymraeg,” meddai.
Cyhoeddiad creulon cyn y Nadolig
Mae Hywel Williams hefyd wedi beirniadu’r Llywodraeth am gyhoeddi’r toriadau i swyddi gyda’r DVLA heddiw, gyda llai na phythefnos i fynd cyn y Nadolig.
“Mae amseru’r cyhoeddiad hwn yn echrydus,” meddai Hywel Williams, AS Plaid Cymru.
“Mae swyddfa’r DVLA ym Mangor yn cyflogi oddeutu dwsin o bobol, a dyma’r unig ganolfan ranbarthol o’r fath yng ngogledd Cymru.”
Mae’r Aelod Seneddol yn rhybuddio y gallai’r cynlluniau olygu “nid yn unig gostyngiad mewn gwasanaeth i’r cyhoedd, ond niwed i’r economi leol hefyd.”
Hwb i dde Cymru?
Ond croesawu’r newyddion wnaeth llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, gan ddweud fod y newidiadau yn addo gwell gwasanaethau a hwb i Abertawe.
Yn ôl Byron Davies AC, bydd ymgynghoriad clymblaid San Steffan ar ddyfodol y DVLA yn golygu “gwella’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig o Abertawe.
“Mae’n iawn i ni ystyried sut all gwasanaethau angenrheidiol gael eu darparu yn fwy effeithlon er mwyn sicrhau gwell gwerth am arian i’r trethdalwyr,” meddai Byron Davies.
“Mae’r DVLA yn gyflogwr lleol enfawr ac mae’r ffaith fod y Glymblaid, dan arweiniad y Ceidwadwyr, eisiau canoli gweithgareddau’r DVLA yn ne Cymru i’w groesawu.”