Mae Ofcom wedi dweud y gallai Caerdydd ac Abertawe gael eu sianeli teledu eu hunain yn y dyfodol, os oes ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud am y drwydded – ac mae Bangor, Rhuthun a’r Wyddgrug hefyd yn opsiynau pellach ar gyfer y dyfodol.

Heddiw, fe gyhoeddodd Ofcom restr o 20 o ardaloedd posib ar gyfer sianeli teledu lleol newydd, fel rhan o ymgynghoriad newydd gan y rheoleiddwyr darlledu.

Mae’r ymgynghoriad yn rhan o gyfres o drwyddedau darlledu lleol newydd fydd yn cael eu hysbysebu gan Ofcom os yw cynlluniau’r Llywodraeth yn cael eu troi’n ddeddf.

Mae’r 20 lleoliad wedi eu dewis o blith ardaloedd lle fyddai’n dechnegol bosib, a lle mae’r rheoleiddwyr yn credu fod yna weinyddwr lleol i’r gwasanaeth.

Mae Ofcom hefyd yn dweud eu bod nhw wedi cymryd ystyriaeth o’r galw lleol am wasanaeth newydd o’r fath.

‘Gwella democratiaeth’

Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan Aelod Cynulliad y Dems Rhydd Peter Black, sy’n dweud y byddai’r sianeli – a allai gynnwys rhaglenni newyddion, adloniant a materion cyfoes – yn gwella trafodaeth ddemocrataidd yn yr ardaloedd.

“Mae cynyddu’r wybodaeth ynglŷn â materion lleol yn ffordd wych o sicrhau fod cynrychiolwyr lleol yn cael eu galw i gyfrif.

“Dwi’n edrych ymlaen i glywed mwy o fanylion ynglŷn a sut byddai’r cynllun yn cael ei redeg a’i ariannu,” meddai Peter Black.