Owen Sheers Llun: Huw Evans
Mae’r awdur, sgriptiwr a’r bardd, Owen Sheers, wedi cael ei benodi yn Awdur Preswyl dros Undeb Rygbi Cymru ar gyfer y flwyddyn 2012.

Mae’r penodiad yn ran o brosiect artistiaid preswyl gan URC, a hynny mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.  Bydd y prosiect tair mlynedd yn edrych ar effaith ddiwylliannol rygbi yn genedlaethol, yn ogystal â sicrhau dyfodol drama.

Pwysau

Mae Sheers wedi dod yn enw cyfarwydd i ddilynwyr llenyddiaeth yn dilyn ei lyfrau poblogaidd ‘Resistance’, sydd wedi ei ryddhau fel ffilm erbyn hyn, a ‘White Ravens’, sef addasiad modern o’r chwedl Branwen. Ond, er gwaethaf ei lwyddiannau, mae Sheers yn dal i deimlo fod pwysau arno yn y swydd newydd hon:

“I fod yn onest, dw i’n teimlo pwysau yn y swydd yma,”  dywedodd Sheers wrth Golwg 360, “nid yn unig oherwydd fod Cymru yn caru rygbi, ond hefyd eu bod nhw’n caru barddoni hefyd, fel mae’r geiriau, ‘Gwlad beirdd a chantorion’, yn ei ddangos yn yr anthem genedlaethol. Mae yng nghalon y Cymry.”

Erbyn hyn mae Sheers yn gweithio a byw yn Llundain, ond yn gobeithio symud yn ôl i fyw yma yng Nghymru. Er nad yw’n rhugl yn y Gymraeg, mae’r awdur ifanc yn gobeithio dod i ddysgu’r iaith dros y flwyddyn nesaf:

“Byddwn wrth fy modd medru gwneud cyfweliad yn Gymraeg, ac yn sicr eisiau ailgychwyn ar ddysgu’r iaith. Byddai fy mam a fy mrawd yn chwerthin arna’i petai nhw’n fy nghlywed i’n trio siarad Cymraeg heddiw.”

“Ond o ran ysgrifennu rhywbeth yn Gymraeg, dw i ddim yn credu wnâi byth wneud hynny, yn anffodus, oherwydd mae angen adnabod yr iaith yn drylwyr. Mae’n dweud rhywbeth fod RS Thomas erioed wedi ysgrifennu ei gerddi yn Gymraeg.”


Luke Charteris Llun: Huw Evans
Ymateb o fewn carfan Cymru

Roedd blaenwr Cymru, Luke Charteris, yn bresennol yn Ystafell Ray Gravelle, yn Stadiwm y Mileniwm, ar gyfer y cyhoeddiad.

Roedd ganddo ef yn bersonol ddiddordeb mewn gweld beth fydd Sheers yn gwneud yn ei gyfnod gyda’r Undeb.

“Dw i’n sicr am gadw diddordeb mewn beth fydd Owen yn ei wneud, a gweld beth fydd rhywun o’i allu ef yn gallu ei wneud.”

“Bydd hyn yn bwysig iawn i’r cefnogwyr  gael gweld beth sydd yn digwydd tu ôl i’r llenni gyda’r chwaraewyr yn y camp. Mae’r Undeb wedi mynd ati yn dda, nid yn unig i benodi unrhyw awdur o Gymru, ond i benodi’r gorau yn y wlad,” meddai Charteris.

“Dw i’n siŵr fydd e’n gallu rhoi ein amser ni mewn i eiriau yn well nag unrhyw un o’r bois, er mwyn cael cofio ein cyfnod fel rhan o’r tîm yn well. Mae bod yn rhan o garfan sydd yn cael ei gofnodi mewn hanes fel hyn yn arbennig iawn.”

Dywedodd y capten, Sam Warburton, hefyd:

“Gwyddom fel chwaraewyr gymaint o ddiddordeb sydd yn y gêm a bydd yn ddiddorol gweld yr hyn a grea Owen ar gownt ein bywydau.”

Robin McBryde

Wrth gwrs, mae Robin McBryde yn ffigwr sydd yn cael ei gysylltu â’r byd rygbi a’r byd diwylliannol, gan fod yn aelod o Orsedd yr Eisteddfod.

Credai ef, bod y cam yma gan yr Undeb yn golygu llawer  i un gŵr yn benodol:

“Byddai hyn wedi meddwl lot fawr i Grav.”

“Wrth edrych ar Gymru, fel cenedl, ‘dan ni wedi gweld y diddordeb sydd mewn rygbi efo’r nifer oedd yma [yn Stadiwm y Mileniwm] yn gwylio gem oedd yn digwydd ochr arall y byd. Ond hefyd, wrth edrych ar ein diwylliant ni, yr Eisteddfod, ysgrifennu, llenyddiaeth ac yn y blaen, mae hyn yn bwysig iawn i ni’r bobol a gobeithio fydd Owen yn medru cysylltu’r cwbl mewn geiriau, ac adlewyrchu ni fel Cymry.”

“Mae’n sicr yn dwist [ar ddarlledu’r gem], ac fel byddai Grav yn dweud, dydan ni fel Cymru ddim gwell na dim gwaeth na neb arall, ond ‘dan ni yn wahanol,” meddai McBryde wrth Golwg 360.

Gair Olaf

Ond beth yn union fydd Sheers yn ei greu? Barddoniaeth? Adroddiad? Stori?

“Dw i ddim yn siwr beth fydda i’n ysgrifennu eto, oherwydd rydw i wedi tyfu mewn i ‘utility back’ yn y byd llenyddol. Bydd hi’n dibynnu ar y digwyddiad os mai cerdd, stori neu unrhyw beth arall bydda i’n ysgrifennu.”