Ni fydd Alex Jones, y gyflwynwraig deledu o Ddyffryn Aman, yn dawnsio yn rownd derfynol y gyfres Strictly Come Dancing yr wythnos nesaf.

Fe adawodd y gystadleuaeth heno, ynghyd â’r actores Holly Valance.

Y tri fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol fydd yr actores Chelsee Healey, Harry Judd,  drymiwr y band McFly; a’r canwr a’r actor Jason Donovan.

Derbyniodd Alex gryn ganmoliaeth gan y beirniaid oedd yn credu ei bod wedi gwella’n aruthrol yn ystod y gystadleuaeth.

Dywedodd Alex fod cyrraedd y rownd gynderfynol wedi bod yn brofiad anhygoel. Y peth gorau am gymryd rhan yn y gyfres oedd y cyfle i weithio gyda’i phartner dawnsio James Jordan, meddai.

Bydd rownd derfynol Strictly yn dod o neuadd ddawns yr Imperial yn Blackpool.